Gweithio i Gyngor Sir Ynys Môn
Mae Ynys Môn yn lle braf i fyw ac i weithio. Mae’n ymwneud â gwella bywydau’r bobl sy’n byw ac yn gweithio ar yr ynys. Er mwyn ein cynorthwyo i gyflawni ein blaenoriaethau rydym angen gweithwyr sydd yr un mor uchelgeisiol â ninnau, sy’n cymryd balchder yn eu gwaith, sydd â meddylfryd byd busnes, sy’n barod i weithio mewn partneriaeth ac sydd bob amser yn darparu’r safonau uchaf posibl.
Ein nod yw creu Ynys Môn sy’n iach a llewyrchus, lle gall teuluoedd ffynnu.
Pwrpas cyffredinol y swydd
Sicrhau bod Plant a Phobl Ifanc sy’n Derbyn Gofal ac sydd â Chynllun sefydlogrwydd i fyw mewn cartref gofal ar Ynys Môn yn derbyn lefel a safon dderbyniol o ofal a chymorth ac i greu amgylchedd hapus, diogel a chefnogol ar gyfer yr unigolion hynny. Bydd hyn yn cynnwys ymgymryd ag amrywiaeth o ddyletswyddau dros gyfnod o 24 awr (gan gynnwys cysgu i mewn dros nos neu nosweithiau effro, ac oriau anghymdeithasol).
Wrth i blant/pobl ifanc yn y Cartrefi Clyd symud i fod yn annibynnol, bydd y Gweithiwr Gofal Preswyl yn parhau i ddarparu cymorth, gofal a chefnogaeth ymarferol i unigolion i alluogi iddynt, pan fyddant yn barod ac yn gallu gwneud hynny ar ôl troi’n 18 oed, symud i fyw yn annibynnol yn eu Cartref Clyd yn y gymuned.
Mwy o gwybodaeth
Gwelwch y swydd disgrifiad am mwy o gwybodaeth a gofynion sgiliau iaith Gymraeg ar gyfer y swydd hon.
Mae croeso i chi gyflwyno cais yn eich dewis iaith. Bydd ceisiadau a gyflwynir yn Gymraeg neu'n Saesneg bob amser yn cael eu trin yn gyfartal.
Atodir isod y disgrifiad swydd/manyleb person.
Rydym yn eich cynghori i arbed y swydd ddisgrifiad a’r manyleb person i’ch cyfrifiadur neu go bach gan unwaith y bydd y swydd yn cau, gan bydd y ddwy ddogfen yma yn diflannu.
Manylion cyswllt
Enw: Rachel Williams
Rhif ffôn: 01248 752066
Cyfeiriad e-bost: rachelwilliams@ynysmon.llyw.cymru
Job Reference: CORP100105