Cyngor Sir Ynys Môn / Isle of Anglesey County Council
Llangefni
Rheolwr Cyflawni y Rhaglen Ynys Ynni
Gweithio i Gyngor Sir Ynys Môn
Mae Ynys Môn yn lle braf i fyw ac i weithio. Mae’n ymwneud â gwella bywydau’r bobl sy’n byw ac yn gweithio ar yr ynys. Er mwyn ein cynorthwyo i gyflawni ein blaenoriaethau rydym angen gweithwyr sydd yr un mor uchelgeisiol â ninnau, sy’n cymryd balchder yn eu gwaith, sydd â meddylfryd byd busnes, sy’n barod i weithio mewn partneriaeth ac sydd bob amser yn darparu’r safonau uchaf posibl.
Ein nod yw creu Ynys Môn sy’n iach a llewyrchus, lle gall teuluoedd ffynnu.
Pwrpas cyffredinol y swydd
Arwain, rheoli a chydlynu cyfeiriad strategol, cyflawniad a pherfformiad y Rhaglen Ynys Ynni er
mwyn sicrhau y gellir gwireddu amcanion a deilliannau’r Rhaglen, ynghyd â’r buddion a ragwelir,
a hynny fel bod modd i'r ynys fanteisio i’r eithaf ar yr holl gyfleoedd economaidd-gymdeithasol a
fydd yn codi o’r datblygiadau carbon isel arfaethedig.
Mae Rhaglen Ynys Ynni Cyngor Sir Ynys Môn (EIP) wedi bod ar waith ers dros 15 mlynedd ac mae'n
rhaglen uchel ei pharch a dylanwadol ar lefel leol, ranbarthol, Cymru a'r DU. Mae'r Rhaglen wedi'i sefydlu
i sicrhau y gall yr Ynys fod yn esiampl o ran pontio i economi ynni adnewyddadwy a charbon isel
ffyniannus a gwydn, drwy sicrhau bod swyddi, sgiliau a chyfleoedd cadwyn gyflenwi lleol o ansawdd
uchel yn cael eu darparu wrth sicrhau diogelwch a gwella'r amgylchedd naturiol a galluogi'r Gymraeg a'r
diwylliant Cymreig i ffynnu mewn cymunedau bywiog.
Bydd y swydd yn canolbwyntio ar reoli a chyflawni’r Rhaglen Ynys Ynni (gan gynnwys y Swyddfa Rheoli
Prosiect) i gefnogi economi leol ffyniannus a llewyrchus, ac i gyflawni amcanion a chanlyniadau
Corfforaethol / Gwasanaeth.
Mae'r rôl yn gofyn am wybodaeth, ymwybyddiaeth a dealltwriaeth arbenigol o'r cyfleoedd economaidd-
gymdeithasol trawsnewidiol posibl y gallai datblygiadau o'r fath eu cynnig i'r Ynys, yn ogystal â'r heriau
a'r cyfyngiadau cysylltiedig. Bydd manteisio ar y cyfleoedd hyn yn gofyn am ymdrech a galluoedd tymor
hir i hwyluso cydgysylltu, cydweithredu ac integreiddio rhwng rhanddeiliaid lleol, rhanbarthol a
chenedlaethol allweddol (o'r sectorau cyhoeddus a phreifat) er mwyn sicrhau'r effeithiau a'r buddion
cadarnhaol mwyaf posibl i Ynys Môn.
Mae'r rôl hefyd yn gofyn am ddealltwriaeth, profiad a gwybodaeth fanwl o'r broses gydsynio sy'n
gysylltiedig â mathau hyn o ddatblygiadau i sicrhau bod y Cyngor yn cyflawni ei rôl yn llawn ac yn effeithiol
ac yn gallu adnabod, cynghori a dylanwadu o ran yr effeithiau posibl (effeithiau negyddol a chadarnhaol)
ar gyfer y cymunedau cynnal lleol.
Mwy o gwybodaeth
Gwelwch y swydd disgrifiad am mwy o gwybodaeth a gofynion sgiliau iaith Gymraeg ar gyfer y swydd hon.
Mae croeso i chi gyflwyno cais yn eich dewis iaith. Bydd ceisiadau a gyflwynir yn Gymraeg neu'n Saesneg bob amser yn cael eu trin yn gyfartal. Atodir isod y disgrifiad swydd/manyleb person. Rydym yn eich cynghori i arbed y swydd ddisgrifiad a’r manyleb person i’ch cyfrifiadur neu go bach gan unwaith y bydd y swydd yn cau, gan bydd y ddwy ddogfen yma yn diflannu. Manylion cyswllt Enw: Christian Branch
Rhif ffôn: 07901110621 Cyfeiriad e-bost: Christian Branch@ynysmon.llyw.cymru
Job Reference: CORP100140
We regret to inform you that this job opportunity is no longer available