Cyngor Sir Ynys Môn / Isle of Anglesey County Council
Llangefni
FULL TIME
Cydlynydd Pontio - Gwasanaeth Arbenigol Plant
Gweithio i Gyngor Sir Ynys Môn
Mae Ynys Môn yn lle braf i fyw ac i weithio. Mae’n ymwneud â gwella bywydau’r bobl sy’n byw ac yn gweithio ar yr ynys. Er mwyn ein cynorthwyo i gyflawni ein blaenoriaethau rydym angen gweithwyr sydd yr un mor uchelgeisiol â ninnau, sy’n cymryd balchder yn eu gwaith, sydd â meddylfryd byd busnes, sy’n barod i weithio mewn partneriaeth ac sydd bob amser yn darparu’r safonau uchaf posibl.
Ein nod yw creu Ynys Môn sy’n iach a llewyrchus, lle gall teuluoedd ffynnu.
Pwrpas cyffredinol y swydd
Bydd y deilydd swydd yn gweithio gyda’r Gwasanaethau Arbenigol Plant a’r Gwasanaethau Oedolion. Maent yn dimau amlddisgyblaeth lle mae’r gallu i weithio gyda gweithwyr proffesiynol eraill yn holl bwysig. Byddant yn rheoli achosion a neilltuir iddynt yn ymwneud â phlant oedran pontio a gall y gwaith gynnwys Asesu ac ymyraethau Gofal Cymdeithasol yn ôl y gofyn.
Byddant yn cynllunio ac yn cydlynu gweithgareddau i drosglwyddo pobl ifanc anabl yn effeithiol i wasanaethau oedolion er mwyn gwneud y gorau o annibyniaeth, llesiant a diogelwch pobl ifanc Ynys Môn sy’n pontio i wasanaethau oedolion. Bydd y deilydd swydd yn gwneud hyn trwy asesu anghenion pobl ifanc a’u teuluoedd / gofalwyr gan ddefnyddio gweithdrefnau’r Adran, a lle bo angen, bydd yn cynnal asesiad ar wahân o anghenion gofalwr/gofalwyr y person. Byddant yn datblygu a dylunio cynllun pontio, a lle bo’n briodol, cynlluniau gofal a chymorth priodol. Byddant yn cynllunio’n greadigol gydag unigolion, gan wneud y gorau o asedau, lleihau risgiau a lleihau dibyniaeth ar ddarpariaeth gwasanaeth yn y tymor hir. Bydd hyn yn cynnwys darparu gwybodaeth a chyngor, cynorthwyo pobl i gael mynediad at adnoddau cymunedol cyffredinol, a chael mynediad at wasanaethau gofal a chymorth statudol yn ôl y gofyn, wrth bontio i fod yn oedolyn. Mwy o gwybodaeth
Gwelwch y swydd disgrifiad am mwy o gwybodaeth a gofynion sgiliau iaith Gymraeg ar gyfer y swydd hon.
Mae croeso i chi gyflwyno cais yn eich dewis iaith. Bydd ceisiadau a gyflwynir yn Gymraeg neu'n Saesneg bob amser yn cael eu trin yn gyfartal. Atodir isod y disgrifiad swydd/manyleb person. Rydym yn eich cynghori i arbed y swydd ddisgrifiad a’r manyleb person i’ch cyfrifiadur neu go bach gan unwaith y bydd y swydd yn cau, gan bydd y ddwy ddogfen yma yn diflannu. Manylion cyswllt Enw: Sarah Jones
Rhif ffôn: 01248 752984 Cyfeiriad e-bost: sarahjones2@ynysmon.llyw.cymru
Job Reference: CORP100056
We regret to inform you that this job opportunity is no longer available