Job Opportunities in United Kingdom


September 19, 2024

Cardiff Council

Cardiff


MENTOR

Am Y Gwasanaeth
Mae cyfle cyffrous wedi codi i unigolyn ymroddedig ymuno â’n tîm Hyfforddiant Cynghori. Rydym yn darparu hyfforddiant, gwirio ansawdd a chyngor ar Fudd-daliadau Lles, Cyngor Ariannol, Gwasanaeth Cwsmeriaid a Thai ar gyfer timau sy'n delio’n uniongyrchol â chwsmeriaid.


Am Y Swydd

Gan weithio yn Is-adran Cyngor yr adran Oedolion, Tai a Chymunedau, bydd y Mentor yn gyfrifol am gynorthwyo staff a chynnal gwiriadau ansawdd perthnasol. Byddwch chi’n datblygu prosesau a gweithdrefnau gwaith yn annibynnol, gan greu a chynnal y rhain ar systemau TG amrywiol. Bydd disgwyl i ddeiliad y swydd ateb ymholiadau cymhleth ym mhob maes yr ydym yn eu cwmpasu, a gallu symleiddio deddfwriaeth ar gyfer Budd-daliadau Lles a Thai. Bydd angen i chi baratoi a chyflwyno sesiynau hyfforddi un i un a grŵp bach.


Beth Rydym Ei Eisiau Gennych

Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus wybodaeth fanwl am fudd-daliadau lles, cyngor ariannol a thai, ynghyd â phrofiad o gefnogi eraill a darparu hyfforddiant a chyngor anffurfiol. Bydd angen i chi allu gweithio'n annibynnol yn cyflwyno cyrsiau hyfforddi yn bersonol a thrwy Teams, meddu ar sgiliau cyfathrebu rhagorol a rhoi sylw i fanylion.


Gwybodaeth Ychwanegol

Mae’r swydd hon yn destun Gwiriad Safonol y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae Diogelu ac Amddiffyn Plant yn flaenoriaethau allweddol i’r Cyngor. Ein nod yw cefnogi plant ac oedolion sy’n agored i niwed er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel ag y gallant fod. Mae ein gwasanaethau a’n hysgolion wedi ymrwymo i sicrhau diogelwch pob plentyn ac oedolyn sy’n agored i niwed, a byddant yn gweithredu i ddiogelu eu lles, ac yn cydnabod bod gan blant ac oedolion sy’n agored i niwed yr hawl i gael eu hamddiffyn. Cefnogir hyn yn ethos cyffredinol y Cyngor a phob ysgol.
Swydd dros dro yw hon tan 31 Mawrth 2025.
Rhaid i ymgeiswyr mewnol sy'n dymuno gwneud cais am y swydd hon ar sail secondiad gael cymeradwyaeth cyn gwneud cais gan ddefnyddio Ffurflen SEC1 (4.C.081). Dim ond y Cyfarwyddwr / Cyfarwyddwr Cynorthwyol / Prif Swyddog neu uwch swyddog enwebedig perthnasol ar radd nad yw’n is na Rh G2, neu yn achos staff mewn ysgolion, y Pennaeth / Corff Llywodraethu, all gymeradwyo ceisiadau.
Mae’r swydd wag hon yn addas i'w rhannu.
Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.
Os hoffech gael sgwrs anffurfiol am y rôl hon cyn gwneud cais, cysylltwch â Viki Hamm ar 07813 993380.
Rydym yn deall y gallech ddefnyddio Deallusrwydd Artiffisial ac adnoddau eraill ar gyfer eich cais;
fodd bynnag, gwnewch yn siŵr bod yr holl wybodaeth rydych chi'n ei darparu yn ffeithiol gywir,
yn wir, yn wreiddiol ac nad yw'n cynnwys syniadau na gwaith nad ydyn nhw eich rhai eich hun.

Sylwer nad yw'r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau adran gwybodaeth ategol eich cais, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig y mae angen i chi ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:-
  • Canllaw ar Wneud Cais
  • Ymgeisio am swyddi gyda ni
  • Fframwaith Cymwyseddau Ymddygiadol
Gwybodaeth Ychwanegol:-
  • Siarter Cyflogeion
  • Recriwtio Cyn-droseddwyr
  • Hysbysiad Preifatrwydd

Job Reference: PEO04186

Latest Job Opportunities


October 15, 2024

TUI Group
Cabin Crew Glasgow

Glasgow

FULL TIME

View Details

October 15, 2024

Orion
Platers

OTHER

View Details

October 15, 2024

Atlas Hotels
Breakfast Team Member

Edinburgh

OTHER

View Details

October 15, 2024

Hotel Co 51
Night Auditor (Night Crew Member) - MOXY Aberdeen Airport

Aberdeen

OTHER & FULL TIME

View Details

October 15, 2024

Hotel Co 51
Crew Member - MOXY Edinburgh Fountainbridge

Edinburgh

OTHER & PART TIME

View Details

Similar Jobs


September 19, 2024

ACT Training Ltd
Youth Learning Mentor

Cardiff

PART TIME

View Details

October 14, 2024

First Class Support
Specialist Mentor (Autistic Spectrum)

St. Andrews

PART TIME

View Details

October 14, 2024

Early Years - the organisation for young children
Early Years Quality Mentor

Belfast

CONTRACT & FULL TIME

View Details

New Jobs from This Company


September 23, 2024

Cardiff Council
CLEANER

Cardiff

FULL TIME & PART TIME

View Details

September 23, 2024

Cardiff Council
GLANHAWR

Cardiff

View Details

September 20, 2024

Cardiff Council
Cook in Charge - Rumney Primary School

Cardiff

PART TIME & FULL TIME

View Details

September 20, 2024

Cardiff Council
LEAD OFFICER (ROAD SAFETY & TRAINING)

Cardiff

View Details

September 20, 2024

Cardiff Council
COGYDD ARWEINIOL - RUMNEY PRIMARY SCHOOL

Cardiff

View Details