Job Opportunities in United Kingdom


November 7, 2024

NPTC Group of Colleges

Neath

OTHER


Swyddog Cyllid Arbenigol: Symiau Taladwy

Ydych chi'n dda gyda rhifau? A oes gennych lygad craff am fanylion? Yna beth am wneud cais i ymuno â'n tîm cyllid yng Ngrwp Colegau NPTC.
Graddfa 4, Pwyntiau 21-24, £26,622 - £28,669 y flwyddyn.
37 awr yr wythnos (gan gynnwys gyda'r hwyr ac yn gynnar yn y bore ac ar benwythnosau yn achlysurol).
Contract: Amser llawn, parhaol.
Ynglyn â chi: Bydd gan ein hymgeisydd delfrydol gymhwyster Lefel 3 (NVQ neu gyfwerth) mewn disgyblaeth berthnasol a phrofiad o gyfrifoldeb dros gyfriflyfr prynu. Dylech feddu ar gymhwyster cyfrifyddu cydnabyddedig, ee lefel tystysgrif AAT neu brofiad sylweddol cyfwerth. Dylech hefyd feddu ar gymwysterau lefel 2 mewn Saesneg a Mathemateg (TGAU neu gyfwerth). Mae profiad o weithredu a gweithredu systemau cysylltiedig â chyllid ac awtomeiddio arall yn hanfodol.
Ynglyn â ni: Grwp Colegau NPTC yw un o'r darparwyr Addysg Bellach mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu bron i bob maes addysg a hyfforddiant galwedigaethol gan gynnwys rhaglen gyffrous ac amrywiol o gyrsiau amser llawn a rhan-amser ar draws lleoliadau o Dde i Ganolbarth Cymru.
Mae Grwp Colegau NPTC wedi bod yn addysgu cenedlaethau’r dyfodol ers dros 90 mlynedd, a chredwn fod cymwysterau a hyfforddiant yn allweddol i lawer o lwybrau gyrfa gwerth chweil. Gyda’n staff addysgu hynod gymwys a’u cyfoeth o wybodaeth am ddiwydiant wrth law, byddwn yn agor y drws i ddyfodol llwyddiannus a llawn boddhad. Mae myfyrwyr wrth wraidd popeth a wnawn, ac rydym am iddynt ein gadael wedi cael mwy nag addysg yn unig.
Pam y dylech chi weithio i ni?
Yn ogystal â chyflogau cystadleuol, mae ein cynlluniau pensiwn ymhlith y gorau sydd ar gael. Mae'r rhain yn cael eu gweinyddu trwy'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol neu'r Cynllun Pensiwn Athrawon ac yn darparu pensiynau sy'n cael eu cynyddu bob blwyddyn yn unol â chwyddiant. Rydym yn cyfrannu dros £20 i'ch pensiwn, am bob £100 y byddwch yn ei ennill.
Mae'r lwfans gwyliau yn ardderchog o flwyddyn 1. Mae gennych 28 diwrnod o wyliau y flwyddyn (yn codi i 32 yn dilyn 5 mlynedd o wasanaeth), a gan ein bod yn cau’r Coleg am hyd at 5 diwrnod dros y Nadolig, mae hyn yn golygu hyd at 5 diwrnod o wyliau ychwanegol. Gyda’r 8 diwrnod o wyliau cyhoeddus/banc ar ben hyn, gallech elwa o 41 diwrnod o wyliau blynyddol. Dyma yw cydbwysedd bywyd-gwaith!
Mae gennym ystod o opsiynau gweithio hyblyg posibl ar gael gan gynnwys gweithio ystwyth, absenoldeb sabothol a rhannu swydd, lle mae'n bodloni anghenion y Coleg. Mae buddion salwch yma yn hael, ac mae staff hefyd yn cael mynediad am ddim i iechyd galwedigaethol annibynnol, y Llinell Gymorth Cymorth i Weithwyr, llinell gymorth rheoli bywyd a chymorth personol 24 awr. Mae’r Coleg hefyd yn cyflogi Cydlynydd Iechyd a Llesiant ymroddedig, sy’n darparu cefnogaeth ac yn trefnu digwyddiadau poblogaidd iawn ar draws y Grwp, yn ogystal â darparu mynediad i amrywiaeth o adnoddau llesiant rhad ac am ddim.
Mae maes parcio am ddim ym mhob un o’n prif golegau yn ogystal â lle i storio beiciau, ac os ydych wedi’ch lleoli yn y De gallwn hefyd gynnig gostyngiad o 10% ym Meithrinfa Ddydd Lilliput yng Nghastell-nedd.
Mae'r Coleg yn addysgwr ac felly rydym yn hyrwyddo ac yn annog Datblygiad Proffesiynol Parhaus i'n holl staff; efallai y byddwn hyd yn oed yn gallu cyfrannu at y ffioedd ar gyfer graddau uwch a chymwysterau eraill sy'n ddefnyddiol i'ch swydd.
Ar ben hyn oll, mae gweithio yn y Coleg yn rhoi’r fraint i ni o fod yn rhan o helpu ein dysgwyr a’n cymunedau i lwyddo a ffynnu.
Mae Grwp Colegau NPTC yn cynnig llawer mwy na chyflogau da yn unig!

Latest Job Opportunities


November 9, 2024

Cwm Taf Morgannwg University Health Board
Medical Laboratory Assistant

Llantrisant

FULL TIME

View Details

November 9, 2024

Powys Teaching Health Board
Health Care Support Worker

Welshpool

FULL TIME

View Details

November 9, 2024

Powys Teaching Health Board
Bank - Health Care Support Worker

Bronllys

PART TIME

View Details

November 9, 2024

Betsi Cadwaladr University Health Board
Technical Instructor Physiotherapy - Orthopedics

Bodelwyddan

FULL TIME

View Details

November 9, 2024

Betsi Cadwaladr University Health Board
General Porter - Relief

Wrexham

FULL TIME

View Details

November 9, 2024

Betsi Cadwaladr University Health Board
Administrative Assistant - Alaw Unit

Bangor

FULL TIME

View Details

November 9, 2024

Betsi Cadwaladr University Health Board
Community Physiotherapy Technical Instructor

Rhyl

FULL TIME

View Details

November 9, 2024

Betsi Cadwaladr University Health Board
Team Secretary - Memory Service - Flintshire

Connah's Quay

FULL TIME

View Details

November 9, 2024

Betsi Cadwaladr University Health Board
Dietitian

Bangor

FULL TIME

View Details

November 9, 2024

Powys Teaching Health Board
Clinical Lead Rehabilitation

Builth Wells

FULL TIME

View Details

Similar Jobs


November 8, 2024

Cyngor Sir Ynys Môn / Isle of Anglesey County Council
Uwch Swyddog Budd-daliadau

Llangefni

FULL TIME

View Details

November 8, 2024

Cyngor Sir Ynys Môn / Isle of Anglesey County Council
SDd - Swyddog Prosiect Cynorthwyol - AHNE

Llangefni

PART TIME

View Details

November 7, 2024

Wales & West Housing
Finance Trainee (Graduate) / Hyfforddai Cyllid (Graddedig)

Llanishen

FULL TIME

View Details

November 8, 2024

Wales & West Housing
Leasehold Officer / Swyddog Lesddaliadau

FULL TIME

View Details

November 8, 2024

Cyngor Sir Ynys Môn / Isle of Anglesey County Council
Swyddog Cefnogi Ysgol - Lefel 1

Llanfechell

View Details

New Jobs from This Company


November 7, 2024

NPTC Group of Colleges
Specialist Finance Officer: Accounts Payables

Neath

OTHER

View Details