Am Y Gwasanaeth
Mae Caerdydd yn un o'r dinasoedd sy'n tyfu gyflymaf yng ngwledydd Prydain. Mae economi’r ddinas yn tyfu, mae swyddi a busnesau yn cael eu creu ac mae disgwyl i boblogaeth y ddinas barhau i dyfu.
Mae'r Gyfarwyddiaeth Oedolion, Tai a Chymunedau yng Nghyngor Caerdydd yn chwarae rhan bwysig ym mywiogrwydd y ddinas ac mae’n ymrwymedig i'r cymunedau y mae'n eu gwasanaethu. Mae gan y Gyfarwyddiaeth gynlluniau adeiladu tai uchelgeisiol a stoc dai sylweddol o fwy na 14,000 o gartrefi. Gyda hynny, crëwyd Safon Ansawdd Tai newydd Cymru a rôl Rheolwr y Prosiect Gwella yw cydlynu'r gwaith o'i gyflawni. Am Y Swydd
Bydd y Rheolwr Prosiect Gwella (SATC) yn rhan o'r adran Cartrefi a Chymdogaethau. Fel arweinydd y Tîm Rheoli Asedau, bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am ddarparu Safon Ansawdd Tai Cymru 2023 a sicrhau bod cofnod cyfredol a chywir o gyflwr y stoc dai yn cael ei gynnal. Bydd hefyd yn arwain y gwaith o weithredu'r Gronfa Ddata Rheoli Asedau newydd i alluogi adrodd a mesur parhaus yn erbyn y safon.
Beth Rydym Ei Eisiau Gennych
Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus y sgiliau canlynol:
Y gallu i arwain/rheoli prosiectau ar raddfa fawr gyda llawer o ffrydiau gwaith gwahanol
Gwybodaeth fanwl am SATC2023
Profiad o weithredu technoleg newydd
Y gallu i feddwl yn strategol
Y gallu i ddatblygu a chynnal perthynas dda gyda rhanddeiliaid mewnol ac allanol.
Mae’r manylion llawn am ddyletswyddau a chyfrifoldebau’r swydd yn y Disgrifiad Swydd/Manyleb Person. Rydym yn chwilio am unigolyn profiadol a brwdfrydig iawn sydd â hanes o gyflawni prosiectau pwysig. Bydd gennych brofiad amlwg o weithio mewn amgylchedd tai cymdeithasol mewn maes cymhleth tebyg a byddwch yn gallu rheoli blaenoriaethau niferus. Bydd angen dealltwriaeth dda arnoch o reoli asedau a’r systemau cysylltiedig, a’r gallu i weithio gyda phartneriaid allanol a gallu dadansoddi a chyflwyno data cymhleth i ddefnyddwyr y gwasanaeth ac uwch reolwyr. Gwybodaeth Ychwanegol
Mae’r swydd hon yn addas i'w rhannu.
Bydd y broses gyfweld ar gyfer y rôl hon yn cael ei chynnal wyneb yn wyneb neu fel arall ar sail rithwir gan ddefnyddio platfform ar-lein priodol. Bydd y rheolwr llogi yn cynghori ar fformat y cyfweliad fel rhan o'r broses recriwtio. Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch eich gallu i gymryd rhan mewn proses gyfweld rithwir, neu os hoffech gael sgwrs anffurfiol am y rôl hon cyn gwneud cais, cysylltwch â.Joanne Welsh (joanne.welsh2@caerdydd.gov.uk) Nid yw’r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau’r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan: Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:-